Loading...

Policy and Advocacy Officer (CAP0372)

Do you have excellent negotiation and influencing skills?

 

Do you have a passion for and knowledge of international development and humanitarian issues?

 

Do you have well-developed research and analytical skills?

 

Do you have excellent communication skills with the ability to communicate and adapt complex policy and development issues to different levels of target audience?  

 

If so, then, we would like to hear from you.

 

The role:

 

 We are looking for a policy and advocacy officer to maintain and develop positive and influential relationships with political institutions, political parties and politicians in Wales. This will allow Oxfam Cymru to lobby effectively on a wide variety of issues with the above stakeholders. 

 

You will identify and research key opportunities to secure policy and practice change, relating to poverty eradication locally and globally. Whilst primarily concerned with political institutions, this will also involve working with the private sector, other non-governmental organisations (NGOs), and academics.

 

You will ensure that assembly members, Welsh MPs and Welsh Members of European Parliaments are appropriately briefed on all relevant issues. Simultaneously, you will also coordinate research projects amongst Oxfam Cymru’s partners and identify key external stakeholders. You will also develop policy priorities and deliver advocacy work for Oxfam Cymru.

 

This is an amazing and unique role where no two days are the same! You will have a chance to make a true difference to Oxfam Cymru’s work as well as ending inequality and poverty within Wales by developing and advocating joint policy positions with Welsh Politicians!

 

You will ensure that assembly members, Welsh MPs and Welsh Members of European Parliaments are appropriately briefed on all relevant issues. Simultaneously, you will also coordinate research projects amongst Oxfam Cymru’s partners and identify key external stakeholders. You will also develop policy priorities and deliver advocacy work for Oxfam Cymru.

 

This is an amazing and unique role where no two days are the same! You will have a chance to make a true difference to Oxfam Cymru’s work as well as ending inequality and poverty within Wales by developing and advocating joint policy positions with Welsh Politicians!

 

What we are looking for:

 

  • Excellent negotiation and influencing skills to develop good working relationships within Oxfam and with political audiences.
  • Professional communication skills, gained within a policy, think tank or political environment, to communicate and adapt complex policy and development issues to different levels of target audience.
  • Well-developed research and analytical skills.
  • Ability to represent Oxfam to high profile external audiences.
  • Interest in and knowledge of political institutions, processes and opportunities for influence in Wales.
  • Passion for and knowledge of international development and humanitarian issues.
  • Commitment to Oxfam’s values and an understanding of gender and diversity.
  • An ability to think and operate creatively, and proven experience of delivering successful results.
  • Strong team working skills with an ability to work under pressure and to tight deadlines.
  • An understanding of poverty and inequality in Wales / UK.
  • The ability to communicate effectively in Welsh is strongly desirable.

 

In return, we offer fair pay and competitive benefits package (see our Oxfam’s Promise attachment for more details).

 

Please note that this is an 18 hour part-time open-ended role.

 

 

How to apply

 

If this sounds like you, click ‘apply for this role’ button below.  If you would like to learn more about this role, please refer to the job profile.

 

About us

 

Oxfam is a global movement of people working together to end the injustice of poverty. That means we tackle the inequality that keeps people poor. Together we save, protect and rebuild lives. When disaster strikes, we help people build better lives for themselves, and for others. We take on issues like land rights, climate change and discrimination against women. And we won’t stop until every person on the planet can enjoy life free from poverty.

 

We are an international confederation of 19 organisations (affiliates) working together with partners and local communities in the areas of humanitarian, development and campaigning, in more than 90 countries.

 

All our work is led by three core values: Empowerment, Accountability, Inclusiveness. To read more about our values please click here.

 

Oxfam is committed to preventing any type of unwanted behaviour at work including sexual harassment, exploitation and abuse, lack of integrity and financial misconduct; and promoting the welfare of children, young people and adults. Oxfam expects all staff and volunteers to share this commitment through our code of conduct. We place a high priority on ensuring that only those who share and demonstrate our values are recruited to work for us.

 

We are committed to ensuring diversity and gender equality within our organisation.

 

Note: All offers of employment will be subject to satisfactory references and may be subject to appropriate screening checks, which can include criminal records and terrorism finance checks. 

 

Swyddog Polisi ac Eiriolaeth (CAP0372)

 

A oes gennych sgiliau trafod a dylanwadu rhagorol?

 

A oes gennych frwdfrydedd dros ddatblygiad rhyngwladol a materion dyngarol, ynghyd â gwybodaeth amdanynt?

 

A oes gennych sgiliau ymchwilio a dadansoddi datblygedig?

 

A oes gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i addasu a chyflwyno materion polisi a datblygu cymhleth i gynulleidfaoedd targed sydd ar lefelau gwahanol?

 

Os felly, hoffem glywed gennych.

 

Y rôl:

 

Rydym yn chwilio am Swyddog Polisi ac Eiriolaeth i gynnal a meithrin perthnasoedd cadarnhaol a dylanwadol â sefydliadau gwleidyddol, pleidiau gwleidyddol, a gwleidyddion yng Nghymru. Bydd hyn yn galluogi Oxfam Cymru i lobïo'n effeithiol mewn perthynas ag amrywiaeth eang o faterion gyda'r rhanddeiliaid uchod.

Byddwch yn nodi ac ymchwilio i gyfleoedd allweddol i sicrhau newid mewn polisïau ac arferion, sy'n ymwneud â dileu tlodi yn lleol ac yn fyd-eang. Er bod y swydd hon yn ymwneud yn bennaf â sefydliadau gwleidyddol, bydd hefyd yn cynnwys gweithio gyda'r sector preifat, sefydliadau anllywodraethol eraill, ac academyddion.

 

Byddwch yn sicrhau bod Aelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol Cymru, ac Aelodau o Senedd Ewrop yn cael yr wybodaeth briodol am yr holl faterion perthnasol. Yn yr un modd, byddwch yn cydgysylltu prosiectau ymchwil ymysg partneriaid Oxfam Cymru ac yn nodi rhanddeiliaid allanol allweddol. Byddwch hefyd yn datblygu blaenoriaethau polisi ac yn gwneud gwaith eirioli ar gyfer Oxfam Cymru.

 

Mae hon yn rôl arbennig ac unigryw lle bydd pob diwrnod yn wahanol! Bydd gennych gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i waith Oxfam Cymru, yn ogystal â chyfrannu at y gwaith o ddod â thlodi ac anghydraddoldeb i ben yng Nghymru, a hynny trwy ddatblygu ac eirioli sefyllfaoedd polisi ar y cyd â gwleidyddion Cymru!

 

Byddwch yn sicrhau bod Aelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol Cymru, ac Aelodau o Senedd Ewrop yn cael yr wybodaeth briodol am yr holl faterion perthnasol. Yn yr un modd, byddwch yn cydgysylltu prosiectau ymchwil ymysg partneriaid Oxfam Cymru ac yn nodi rhanddeiliaid allanol allweddol. Byddwch hefyd yn datblygu blaenoriaethau polisi ac yn gwneud gwaith eirioli ar gyfer Oxfam Cymru.

 

Mae hon yn rôl arbennig ac unigryw lle bydd pob diwrnod yn wahanol! Bydd gennych gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i waith Oxfam Cymru, yn ogystal â chyfrannu at y gwaith o ddod â thlodi ac anghydraddoldeb i ben yng Nghymru, a hynny trwy ddatblygu ac eirioli sefyllfaoedd polisi ar y cyd â gwleidyddion Cymru!

 

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano:

 

  • Sgiliau trafod a dylanwadu rhagorol er mwyn meithrin perthnasoedd gwaith da o fewn Oxfam,

a chyda cynulleidfaoedd gwleidyddol.

  • Sgiliau cyfathrebu proffesiynol, wedi'u meithrin mewn amgylchedd gwleidyddol, polisi neu

felin drafod, er mwyn addasu a chyflwyno materion polisi a datblygu cymhleth i gynulleidfaoedd targed sydd ar lefelau gwahanol.

  • Sgiliau ymchwilio a dadansoddi datblygedig.
  • Y gallu i gynrychioli Oxfam gerbron cynulleidfaoedd allanol uchel eu proffil.
  • Diddordeb mewn sefydliadau, prosesau a chyfleoedd gwleidyddol, ynghyd â gwybodaeth

amdanynt, er mwyn dylanwadu arnynt yng Nghymru.

  • Brwdfrydedd dros faterion dyngarol a datblygu rhyngwladol, a gwybodaeth amdanynt.
  • Ymrwymiad i werthoedd Oxfam a dealltwriaeth o'r rhywiau ac amrywiaeth.
  • Y gallu i feddwl a gweithredu mewn modd creadigol, a phrofiad blaenorol o sicrhau

canlyniadau llwyddiannus.

  • Sgiliau effeithiol o ran gweithio mewn tîm, a'r gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser

tyn.

  • Dealltwriaeth o dlodi ac anghydraddoldeb yng Nghymru/yn y Deyrnas Unedig.
  • Mae'r gallu i gyfathrebu mewn modd effeithiol yn Gymraeg yn ddymunol iawn.

 

Yn gyfnewid am hynny, byddwn yn cynnig cyflog teg, ynghyd â phecyn buddion cystadleuol (gweler yr atodiad, Oxfam’s Promise, am ragor o fanylion).

 

Nodwch fod hon yn rôl benagored ran-amser 18 awr yr wythnos.

 

 

Sut i wneud cais

 

Os yw hyn yn canu cloch, cliciwch ar y botwm ‘ceisio am y rôl hon’ isod. Os hoffech wybod rhagor am y rôl hon, cyfeiriwch at broffil y swydd.

 

Amdanom ni

 

Mae Oxfam yn fudiad byd-eang o bobl sy'n cydweithio i ddod ag anghyfiawnder tlodi i ben. Mae hyn yn golygu ein bod yn mynd i'r afael â'r anghyfiawnder sy'n cadw pobl yn dlawd. Gyda'n gilydd, rydym yn achub, yn amddiffyn ac yn adfer bywydau. Pan fydd trychineb yn taro, rydym yn helpu pobl i adeiladu dyfodol gwell ar gyfer eu hunain, ac eraill. Rydym yn brwydro materion megis hawliau tir, newid yn yr hinsawdd a gwahaniaethu yn erbyn menywod. Ac ni fyddwn yn gorffwys hyd nes bydd pob unigolyn ar y blaned yn gallu mwynhau bywyd heb dlodi.

 

Rydym yn gonffederasiwn rhyngwladol o 19 o sefydliadau (cysylltiedigion) sy'n cydweithio â phartneriaid a chymunedau lleol ym maes dyngarwch, datblygu ac ymgyrchu, a hynny mewn dros 90 o wledydd.

 

Mae ein holl waith yn seiliedig ar dri gwerth craidd: Grymuso, Atebolrwydd, Cynnwys Pobl. I ddarllen rhagor am ein gwerthoedd, cliciwch yma.

 

Mae Oxfam wedi ymrwymo i atal unrhyw fath o ymddygiad dieisiau yn y gwaith, gan gynnwys aflonyddwch, ecsbloetio a chamdriniaeth rywiol, diffyg didwylledd a chamymddygiad ariannol; ac i hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion. Mae Oxfam yn disgwyl i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn trwy ein cod ymddygiad. Un o'n blaenoriaethau yw sicrhau mai dim ond y rheiny sy'n rhannu ac yn amlygu ein gwerthoedd sy'n cael eu recriwtio i weithio i ni.

 

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau amrywiaeth a chydraddoldeb rhywiol yn ein sefydliad.

 

Noder: Bydd pob swydd yn cael ei chynnig yn amodol ar eirdaon boddhaol, a gall cynigion fod yn amodol ar gynnal archwiliadau sgrinio priodol, a allai gynnwys gwirio cofnodion troseddol a chyllid sy'n ymwneud â therfysgaeth. 

 


 
  • Location:
    CARDIFF (Office)
  • Hours:
    18 hours per week
  • Salary:
    Up to £30,375 pro rata depending on experience
  • Region:
    Policy, Programme and Campaigns
  • Job Family:
    Programme
  • Division:
    Campaigns, Policy & Influencing
  • Job Type:
    Open ended
  • Closing Date:
    4 January 2019
Share your feedback
Loading...
Share this page
Vacancy Alerts
Create an alert subscription based on this vacancy